Rent (sioe gerdd)

Rent
200
Poster y sioe wreiddiol
Cerddoriaeth Jonathan Larson
Geiriau Jonathan Larson
Llyfr Jonathan Larson
Seiliedig ar Yn seiliedig ar opera Giacomo Puccini La bohème
Cynhyrchiad 1993 Gweithdy a darlleniad
1994 Oddi-ar Broadway
1996 Broadway
1996 Taith Genedlaethol UDA
1998 WEst End
1998 Awstralia
2001 Taith y DU
2003 Adfywiad yn West End Llundain
2005 Ffilm
2006 Rent 10
2007 Adfywiad yn West End Llundain
2009 Taith Genedlaethol UDA
2009 Cyngerdd yn y West End
Gwobrau Gwobr Pulitzer am Ddrama
Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau
Gwobr Tony am y Sgôr Orau
Sioe Gerdd Eithriadol Drama Desk
Llyfr Eithriadol Drama Desk

Mae Rent yn sioe gerdd sy'n seiliedig ar opera Giacomo Puccini, La Bohème. Ysgrifennwyd y geiriau a'r gerddoriaeth gan Jonathan Larson. Adrodda hanes grŵp o artistiaid a cherddorion tlawd sy'n brwydro i oroesi a chreu yn Ochr Ddwyreiniol Isaf Efrog Newydd yn ystod cyfnod bohemaidd y ddinas. Mae'r afiechyd AIDS yn gefnlen i'r sioe.

Gwelwyd y sioe gerdd am y tro cyntaf mewn gweithdy tair wythnos yng Gweithdy Theatr Efrog Newydd ym 1994. Pan agorodd y sioe yn swyddogol ar 25 Ionawr 1996, defnyddiwyd yr un theatr sydd oddi-ar prif ardal Broadway. Bu farw crëwr y sioe, Jonathan Larson, yn sydyn iawn y noson cyn y noson agoriadol. Enillodd y sioe Wobr Pulitzer ac roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant. Yn ddiweddarach, symudwyd y sioe i theatr mwy o faint sef y Theatr Nederlander ar Broadway ar 29 Ebrill 1996.

Ar Broadway, derbyniodd Rent feirniadaethau canmoladwy, gan ennill Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau ymysg gwobrau eraill. Daeth y sioe gerdd hon a chast gydag amrywiaeth o gefndiroedd ethnig a phynciau dadleuol i fyd y sioe gerdd a oedd yn draddodiadol geidwadol, ac arweiniodd hyn yn ei dro i gynyddu poblogrwydd theatr cerdd ymysg y genhedlaeth iau. Daeth y cynhyrchiad ar Broadway i ben ar 7 Medi 2008 ar ôl cyfnod o 12 mlynedd, a 5,124 o berfformiadau gan wneud y sioe y seithfed sioe i gael ei pherfformio am y cyfnod hiraf ar Broadway, chwe mlynedd ar ôl The Phantom of the Opera. Gwnaeth y sioe rent dros $280 miliwn.

Yn sgîl llwyddiant y sioe, cafwyd nifer o deithiau cenedlaethol a chynhyrchiadau rhyngwladol, ac yn 2005 cafodd ei addasu'n ffilm sy'n serennu y rhan fwyaf o'r cast gwreiddiol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search